Gwasanaeth cyfieithu cyflym, hyblyg a dibynadwy.
Fel cyfieithydd achrededig rwyf yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys cyfieithu, prawfddarllen, golygu, ac isdeitlo.
Beth bynnag fo’r pwnc neu’r amserlen, cysylltwch i drafod eich anghenion.
-
Fel cyfieithydd achrededig, rwy'n arbenigo mewn darparu cyfieithiadau o safon (Saesneg i’r Gymraeg / Cymraeg i’r Saesneg) am bris cystadleuol, wedi'u dychwelyd yn brydlon. Os yw amser yn brin, rwyf bob amser yn fwy na pharod i weithio dros nos neu ar y penwythnos, heb unrhyw dâl ychwanegol.
Wedi gweithio gyda chleientiaid yn y sectorau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector, yn amrywio o awdurdodau lleol, prifysgolion, pleidiau gwleidyddol, busnesau bach, ac elusennau; mae gen i brofiad helaeth gydag amrywiaeth o gleientiaid a'u hanghenion unigol.
Caiff pob cyfieithiad ei brawfddarllen yn drylwyr, gan sicrhau fod y gwaith yn gyson ac o’r safon uchaf.
Rwyf hefyd yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru; corff cenedlaethol sy’n ei gwneud yn ofynnol i'w aelodau fodloni safonau proffesiynol trwyadl.
Cysylltwch â mi os hoffech ragor o wybodaeth, neu i drafod eich anghenion.
-
Yn ogystal â chyfieithu, rwyf hefyd yn cynnig gwasanaethau prawfddarllen yn Gymraeg neu Saesneg.
P'un a ydych angen gwirio bod eich arwyddion newydd yn cyrraedd y safon neu brawfddarllen eich traethawd, gallaf helpu.
Cysylltwch i drafod eich anghenion.
-
Rwyf yn cynnig gwasanaeth is-deitlo proffesiynol am bris cystadleuol yn y Gymraeg neu’r Saesneg, gan ddefnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf i sicrhau ansawdd a chywirdeb.
-
Rwyf hefyd yn cynnig gwasanaethau iaith proffesiynol pellach, gan gynnwys trawsgrifio, trawsgreu, ysgrifennu copi, a golygu copi.
Cysylltwch am fwy o wybodaeth.
Amdanaf
Yn dilyn graddio o Brifysgol Bangor yn 2020 gyda gradd mewn Ieithyddiaeth, roeddwn yn awyddus i gyfuno fy nodau proffesiynol gyda fy angerdd am hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Es ymlaen i weithio fel cyfieithydd yn y sector cyhoeddus, cyn penderfynu canolbwyntio’n llawn amser ar fy musnes cyfieithu yn 2022.
Rwyf wedi fy lleoli yng Nghaernarfon, Gogledd Cymru, ac ers hynny wedi gweithio i ystod o gleientiaid yn y DU ac yn Ewrop, yn y sectorau preifat a chyhoeddus, boed yn gyfieithu safonol, prawfddarllen, golygu, isdeitlo neu drawsgrifio.
Rwyf hefyd yn aelod safonol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru.